Rwy'n anfon atoch ar ran Cylch yr Iaith ynglŷn â'r strategaeth iaith genedlaethol newydd. Oherwydd inni dreulio llawer o amser gyda materion cysylltiedig, megis llunio papurau'n ymateb i ymgynghoriadau eraill, megis y rhai ,ar asesiad effaith ieithyddol Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, asesiad effaith ieithyddol Cynllun Wylfa Newydd, ac ymateb i ddatganiadau ieithyddol a chymunedol ceisiadau cynllunio unigol - ofnwn na chawsom amser i lunio ymateb i'r ymgynghoriad ar y strategaeth iaith genedlaethol mewn pryd.

Mewn perthynas â'r strategaeth iaith genedlaethol newydd, mater canolog yn ein tyb ni yw perthynas yr economi a'r Gymraeg, ac ydym yn ystyried Tai, Cynllunio Gwlad a Thref, a Datblygu Economaidd yn ffactorau allweddol o ran cynnal ac atgyfnerthu'r Gymraeg fel iaith gymunedol. Fel y gwyddoch, bu'r daearyddwyr ieithyddol, Harold Carter a John Aitchison, ac eraill, yn tynnu sylw at yr agwedd hon ac yn pwysleisio pa mor hanfodol ydyw'r ffactorau hyn i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r Gymraeg fel iaith gymunedol. Hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad a chynllun gwaith a gynhyrchwyd gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cymunedau Cymraeg (dan gadeiryddiaeth Dr Rhodri Llwyd Morgan) yn Rhagfyr 2013, sef 'Cynyddu nifer y Cymunedau lle defnyddir y Gymraeg fel prif iaith'.

Fel datblygiad i'r gwaith a wnaed eisoes, rydym o'r farn y dylid ystyried yn ddifrifol gynnwys yn y strategaeth iaith genedlaethol newydd ofyniad i Lywodraeth Cymru sefydlu Awdurdod Datblygu Cymunedau Cymraeg a fyddai'n gyfrifol am gyflawni'r amcan o gryfhau'r cymunedau Cymraeg presennol a chynyddu nifer y cymunedau lle defnyddir y Gymraeg fel prif iaith.

Gyda Chomisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol am arolygu'r safonau iaith, sef cyfrifoldebau cyfreithiol cyrff cyhoeddus, cyfleustodau a chyrff penodol eraill i ddarparu gwasanaeth yn y Gymraeg, a chyda'r Asiantaeth y Gymraeg arfaethedig yn gyfrifol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg gan unigolion, teuluoedd, a chymdeithasau a grwpiau gwirfoddol lleol, y mae'n gwbl angenrheidiol cael corff cenedlaethol a fyddai'n ymwneud nid ag unigolion a grwpiau o fewn y gymuned ond yn ymwneud â'r cymunedau fel y cyfryw a'r ffactorau sy'n dylanwadau arnynt. Byddai'r corff hwn â chyfrifoldeb dros y Gymraeg ym meysydd tai, cynllunio gwlad a thref, a datblygu economaidd. Awdurdod Datblygu Cymunedau Cymraeg fyddai'n llenwi'r bwlch amlwg hwn. Byddai yn y lle cyntaf yn dwyn ynghyd arbenigeddau yn y meysydd hyn ynghyd â Chynllunio Iaith er mwyn llunio strategaeth gymdeithasol-economaidd gyda lles y Gymraeg fel iaith gymunedol yn integreiddiedig. Byddai awdurdodau lleol, byrddau a fforymau economaidd cenedlaethol a rhanbarthol, a chyrff eraill sy'n ymwneud â thai, cynllunio gwlad a thref, a datblygu economiadd, yn gweithredu'n gydlyniadol o fewn y strategaeth gymdeithasol-economaidd. Nid yw'n bosib cyflawni'r amcan heb cael corff penodol o'r fath i sicrhau'r gyriant, y cydlynu a'r atebolrwydd i weithredu strategaeth gymdeithasol-economaidd. Rydym o'r farn fod hyn yn hanfodol.  

Byddem yn hynod falch pe baech yn ystyried yr ychydig sylwadau uchod ac yn caniatau inni ymhelaethu arnynt a chyfranogi er bod dyddiad cau'r ymgynghoriad wedi mynd heibio.

Edrychaf ymlaen at glywed gennych.
Cofion,

Ieuan Wyn
Ysgrifennydd Cylch yr Iaith